Agweddau a galluoedd tîm
Mae’r cynghorion isod wedi’u seilio ar ganllawiau CG142 NICE: Autism in adults: diagnosis and management: http://www.nice.org.uk/guidance/cg142]
Proffesiynolion cymwysedig a medrus ddylai asesu pobl – a hynny trwy gyfrwng tîm ac ynddo amryw alwedigaethau a medrau.
Fel arfer, byddai tîm sy’n asesu oedolion ynglŷn ag anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd yn ymwneud â meysydd arbenigol megis:
- Seiciatreg
- Seicoleg glinigol
- Therapi galwedigaethol
- Therapi iaith a lleferydd
- Nyrsio arbenigol
Proffesiynolion a chanddynt brofiad arbenigol o asesu a diagnosis ym maes awtistiaeth ddylai ysgwyddo cyfrifoldeb am asesiadau cymhleth.