Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae’r cynghorion canlynol wedi’u seilio ar ganllawiau CG128 NICE, ‘Autism in under 19s: recognition, referral and diagnosis’.  [www.nice.org.uk/guidance/cg128/chapter/1-Guidance#recognising-children-and-young-people-with-possible-autism]

 

Asesu

Dylai’r asesu gynnwys y canlynol:

  • ymchwilio’n fanwl i’r pryderon sydd wedi’u codi;
  • archwilio’r hanes meddygol;
  • ystyried natur bywyd yn y cartref, yn yr ysgol ac o dan ofal cymdeithasol;
  • canolbwyntio ar elfennau datblygiadol ac ymddygiadol yr hanes meddygol yn ôl meini prawf ICD-10, a DSM-5 o ran awtistiaeth (argymhellir defnyddio DSM-5 sydd wedi disodli DSM-IV bellach);
  • gwylio’r plentyn, gan ganolbwyntio ar yr elfennau datblygiadol/ymddygiadol yn ôl meini prawf ICD-10 a DSM 5 o ran awtistiaeth;
  • archwilio’r corff;
  • asesu ynglŷn â phroblemau eraill (lle bo rhesymau dros wneud hynny).

 

Archwilio’r corff

Dylech chi chwilio am y canlynol:

  • arwyddion niwroffibromatosis neu sglerosis oddfog ar y croen;
  • anafiadau (megis rhai o ganlyniad i’w gam-drin neu ar ôl ei niweidio ei hun);
  • gwyriadau cynhenid;
  • ffurfiau anarferol ar y corff megis pen eithriadol o fawr neu fychan.

Ddylech chi ddim ymchwilio’n feddygol iddyn nhw fel arfer ond, lle bo’n briodol, dylech chi ystyried profion genetig lle bo ffurfiau corfforol anarferol, gwyriadau cynhenid neu anableddau dysgu.  Os tybiwch chi fod epilepsi, prawf EEG fydd yn briodol.

 

Dulliau diagnostig

Does dim digon o dystiolaeth i hybu’r un dull diagnostig penodol.  Peidiwch â dibynnu ar unrhyw ddull o’r fath i bennu diagnosis o ran awtistiaeth.

Does dim rhaid defnyddio dull diagnostig wrth asesu awtistiaeth ond, os na ddefnyddiwch chi un, dylech chi weithio yn ôl meini prawf DSM-5 neu ICD-10, o leiaf.

Gallai fod angen i glinigwyr ystyried defnyddio dulliau asesu eraill sy’n eu helpu i ddehongli’r dulliau a’r graddfeydd ym maes awtistiaeth.  Er enghraifft, asesu gallu deallusol neu asesu’r gallu i ddeall a mynegi iaith.

Yn ôl tystiolaeth gyhoeddodd NICE fis Ebrill 2013, nid trwy ganlyniadau dim ond un dull y dylech chi bennu diagnosis.

 

Atodlen Arsylwi Diagnostig Awtistaidd (ADOS)

http://wpspublish.com/store/p/2647/autism-diagnostic-observation-schedule-ados

 

Cyfweliad Diagnostig Awtistiaeth – Diwygiedig (ADI-R)

http://www.wpspublish.com/store/p/2645/autism-diagnostic-interview-revised-adi-r

 

Cyfweliad Diagnostig ar gyfer Anhwylderau Cyfathrebu Cymdeithasol (DISCO)

http://www.autism.org.uk/disco

 

Cyfweliad Datblygiadol, Dimensiynol a Diagnostig (3di)

[Er bod hyn yn y canllawiau, mae tystiolaeth ychwanegol i’w ategu.]

 

Graddfa Pennu Awtistiaeth Gilliam (GARS)

http://www.pearsonclinical.co.uk/Psychology/ChildMentalHealth/ChildAutisticSpectrumDisorders/GilliamAutismRatingScale-SecondEdition(GARS-2)/GilliamAutismRatingScale-SecondEdition(GARS-2).aspx

Chwilio am lawrlwythiadau?

Rydyn ni wedi didoli’r cynnwys yn ôl pump dosbarth. Gwasgwch y botwm priodol i agor pob rhan:

Dadlwythiadau

Cynllunio ar gyfer asesu anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd mewn plant
ICD-10 Diagnostic categories
DSM5 Diagnostic Criteria