Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae’r cynghorion canlynol wedi’u seilio ar ganllawiau CG128 NICE, ‘Autism in under 19s: recognition, referral and diagnosis’. [www.nice.org.uk/guidance/cg128/chapter/1-Guidance#recognising-children-and-young-people-with-possible-autism]

Dylai’r tîm fynd ati i leddfu anghydraddoldeb o ran adnabod, atgyfeirio a diagnosis ymhlith y rhai sy’n gallu siarad a deall yn dda, merched, y rhai sy’n ymwneud â dwy iaith a’r rhai sy’n ymwneud â threfn y cyfiawnder troseddol.

Dylai asesu gynnwys ‘nodi cryfderau, medrau, gwendidau ac anghenion plentyn neu lencyn’ a defnyddio’r proffil hwnnw i baratoi cynllun rheoli sy’n ystyried yr anghenion a’r cyd-destun teuluol ac addysgol.  I wneud hynny, mae angen tîm ac ynddo’r amryw alwedigaethau a medrau priodol.

Dylai fod yn y tîm craidd:

  • paediatregydd a/neu seiciatrydd sy’n ymwneud â phlant a’r glasoed;
  • therapydd iaith a lleferydd;
  • seicolegydd clinigol a/neu addysgol.

Os nad oes yn y tîm arbenigwyr fel a ganlyn, dylen nhw fod ar gael iddo yn rheolaidd:

  • paediatregydd a/neu niwrolegydd pediatrig;
  • seiciatrydd plant a’r glasoed;
  • seicolegydd addysg;
  • seicolegydd clinigol;
  • therapydd galwedigaethol.

Bydd aelodau’r tîm dros faterion awtistiaeth yn glinigwyr a allai gyflawni rolau eraill a bod yn rhan o dimau eraill ym meysydd iechyd plant, iechyd meddyliol plant a’r glasoed, addysg neu ofal cymdeithasol, er y dylai gweithio yn y

tîm dros faterion awtistiaeth fod yn rôl benodol i’r arbenigwyr hynny, hefyd.

Fydd dim angen i bawb yn y tîm gymryd rhan ym mhroses asesu diagnostig pob plentyn neu lencyn, er na fydd yr un arbenigwr ar ei ben ei hun mewn sefyllfa i gynnal yr asesu i gyd.

 

Gallai arbenigwr gofal iechyd profiadol iawn orffen rhai camau (megis ADI/ADI-R ac ADOS) ar ei ben ei hun.  Bydd angen arbenigedd ehangach o lawer i ymgymryd â’r agweddau eraill a llunio proffil cynhwysfawr o’r plentyn neu’r llencyn o dan sylw, fodd bynnag.

Dylai fod gan y tîm y medrau a’r cymwyseddau i wneud y canlynol:

  • asesu rhywun ar gyfer diagnosis;
  • cyfathrebu â phlant a phobl ifanc mae tyb neu gadarnhad bod awtistiaeth gyda nhw, yn ogystal â’r cynhalwyr a’r rhieni, a chyfleu’r diagnosis iddyn nhw mewn modd tringar.

Dylai fod gan y tîm fedrau priodol i asesu plant a phobl ifanc fel a ganlyn ar gyfer diagnosis (fel arall, dylai arbenigwyr allanol fod ar gael):

  • rhai a chanddynt broblemau megis nam difrifol ar y golwg neu’r clyw, anhwylder motor difrifol megis parlys yr ymennydd, anhwylder ieithyddol cymhleth neu anhwylder meddyliol cymhleth;
  • plant a phobl ifanc sydd o dan ofal.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Rydyn ni wedi didoli’r cynnwys yn ôl pump dosbarth. Gwasgwch y botwm priodol i agor pob rhan:

Dadlwythiadau

NICE Autism in under 19s recognition referral and diagnosis