Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae’r cynghorion canlynol wedi’u seilio ar ganllawiau CG128 NICE, ‘Autism in under 19s: recognition, referral and diagnosis’. [www.nice.org.uk/guidance/cg128/chapter/1-Guidance#recognising-children-and-young-people-with-possible-autism

Pa arwyddion ddylai beri i staff gofal sylfaenol atgyfeirio rhywun ar gyfer asesu?

Dylai proffesiynolyn ddefnyddio craffter clinigol wrth benderfynu a oes rhaid atgyfeirio plentyn neu lencyn i’w asesu o ran awtistiaeth (neu i’w asesu mewn modd amgen) neu a oes rhaid hel cynghorion ymhlith aelodau mwy profiadol yn y tîm dros faterion awtistiaeth yn gyntaf.

Dylid anfon rhywun at y tîm dros awtistiaeth ar ôl ystyried:

  • Arwyddion/nodweddion (gweler isod)
  • Ehangder
  • Nifer
  • Pa mor ddifrifol
  • Pa mor hir
  • Pa mor dreiddiol
  • Effaith


Rhaid rhoi sylw arbennig i 
bryderon rhieni’r plentyn neu’r llencyn.

Wrth ddod i benderfyniad, rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw beryglon allai arwain at awtistiaeth.

Lle nad oes digon o arwyddion na nodweddion i beri ichi atgyfeirio’r claf yn syth, rhaid ei wylio yn ofalus dros gyfnod am y gallai’r arwyddion a nodweddion newid wrth dyfu.  Os yw’r rhiant, y cynhaliwr neu’r arbenigwr yn pryderu o hyd, fodd bynnag, rhaid ailystyried y penderfyniad i beidio ag atgyfeirio’r plentyn.

Lle mae medrau ieithyddol neu gymdeithasol plentyn o dan 3 oed wedi dirywio heb golli medrau motor, dylech chi ei atgyfeirio yn syth ar gyfer ei asesu am ei bod yn debygol iawn y bydd awtistiaeth ganddo.  Os gwelwch chi ryw ddirywiad mewn plentyn dros 3 oed, fe ddylech chi ei anfon at paediatregydd neu niwrolegydd pediatrig yn y lle cyntaf, hyd yn oed lle mae arwyddion a nodweddion awtistiaeth (gallai newid ym medrau cymdeithasol plentyn hŷn ddangos bod achoseg ehangach i’w hastudio). Gall yr arbenigwyr hynny anfon y plentyn at y tîm dros faterion awtistiaeth lle bo angen.

Lle byddai’n well gan y rhieni, y cynhalwyr neu (lle bo’n briodol) y plentyn neu’r llencyn beidio â mynd at y tîm dros faterion awtistiaeth, fe ddylech chi ystyried ei wylio’n ofalus dros ryw gyfnod.  Pe bai pryderon o hyd ar ôl y cyfnod hwnnw, byddai modd ystyried ei atgyfeirio.

Ddylai’r rhai sy’n atgyfeirio plentyn ddefnyddio dull nodi tebygolrwydd uwch o awtistiaeth?

Gall dulliau nodi’r tebygolrwydd o awtistiaeth helpu i adnabod arwyddion a nodweddion y cyflwr mewn modd trefnus.  Ddylai neb ddibynnu ar ganlyniadau proses o’r fath i benderfynu a ddylai atgyfeirio claf neu beidio.  All y dulliau hynny ddim cymryd lle craffter clinigol.

Os yw dull o’r fath wedi’i ddefnyddio o gwbl, rhaid cynnwys y canlyniadau ymhlith unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd i’w hanfon at yr arbenigwyr fydd yn asesu’r claf.

Dulliau sydd ar gael

Mae nifer o brofion hawdd a chyflym sy’n addas i staff nad ydyn nhw’n arbenigo yn y maes hwn.  Mae rhai’n rhad ac am ddim, ond rhaid talu i ddefnyddio eraill.

M-CHAT (i’w lwytho i lawr isod)

Prawf ar gyfer babanod 16-30 mis.

Holiadur Syndrom Asperger (i’w lwytho i lawr isod)

Ar gyfer plant rhwng 6 a 17 oed a allai fod ar ben uchaf y sbectrwm awtistaidd.  Rhaid i riant ac athro lenwi un.  Sgoriau: 0 = No, 1 = Somewhat, 2 = Yes.  Mae rhaid i riant ac athro lenwi un holiadur yr un.  Sgoriau: 0 = Dim, 1 = Rhywfaint, 2 = Oes.

Holiadur cyfathrebu cymdeithasol (£)

Ar gyfer plant dros 4 oed os 2 oed yw oedran y meddwl.

www.hogrefe.co.uk/scq.html

Chwilio am lawrlwythiadau?

Rydyn ni wedi didoli’r cynnwys yn ôl pump dosbarth. Gwasgwch y botwm priodol i agor pob rhan:

Dadlwythiadau

Asperger Syndrome Screening Questionnaire
Pryd y dylech chi atgyfeirio plentyn i’w asesu ynglŷn ag anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd
Elfennau allai gynyddu perygl awtistiaeth
Pecyn Cymorth Clinigwyr: Ffurflen atgyfeirio enghreifftio
Rhai Arwyddion Cyffredin o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig mewn Plant
Awtistiaeth – adnabod agweddau amlwg
Autism SIGNS Poster - Plant bach
Autism SIGNS poster - Plant a dechrau’r glasoed
Autism SIGNS poster - Diwedd y glasoed ac oedolion