Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yn ôl Canllawiau CG170 NICE,  Autism in under 19s: recognition, referral and diagnosis. [www.nice.org.uk/guidance/cg128/chapter/1-recommendations]

 

Gallech chi ystyried ymarferion cyfathrebu cymdeithasol ar ffurf gêmau sy’n cynnwys rhieni, cynhalwyr ac athrawon ac yn canolbwyntio ar helpu plant i ddal eu sylw, ymgysylltu ac ymateb.

Dylai camau o’r fath:

  • gweddu i lefel ddatblygiadol y plentyn/llencyn;
  • anelu at helpu rhieni, cynhalwyr, athrawon neu gyfoedion i ddeall sut mae’r plentyn/llencyn yn cyfathrebu a sut y dylen nhw ymateb iddo mewn modd tringar;
  • cynnwys dulliau mae therapydd wedi’u pennu ynghyd ag adborth trwy fideo;
  • cynnwys amryw ffyrdd o ehangu medrau cyfathrebu, chwarae a chymdeithasu’r plentyn/llencyn.

 

Dylech chi ystyried canoli gan rieni, cynhalwyr neu athrawon i blant o dan oedran ysgol.

Dylech chi ystyried canoli gan gyfoedion i blant o oedran ysgol.

Ddylech chi ddim defnyddio moddion na threfnau bwyta arbennig i drin nodweddion craidd awtistiaeth.

Dadlwythiadau

Awtistiaeth: Canllaw i Rieni a Chynhalwyr yn dilyn Diagnosis