Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae’r cynghorion isod wedi’u seilio ar ganllawiau CG142 NICE: Autism in adults: diagnosis and management: [www.nice.org.uk/guidance/cg142]

Gwybodaeth ysgrifenedig

Dylech chi lunio adroddiad ar ôl y diagnosis cyn ei roi i’r claf a gofyn am ei ganiatâd i’w anfon at ei feddyg a phroffesiynolion perthnasol eraill.

Cyfweliad ar ôl diagnosis

Dylech chi gynnig i bob oedolyn sydd wedi’i asesu ar gyfer awtistiaeth (ni waeth a oes eisiau rhagor o ofal a chymorth arno neu beidio) gyfarfod dilynol i drafod:

  • goblygiadau’r diagnosis;
  • unrhyw bryderon am y diagnosis;
  • unrhyw ofal a chymorth y gallai fod eu hangen arno.

Proffil

Rhoi ‘trwydded iechyd’ (er enghraifft, cerdyn wedi’i lamineiddio) i bob oedolyn a chanddo awtistiaeth, gan gynnwys gwybodaeth i’r staff am y gofal a’r cymorth y bydd eu hangen arno.  Cynghori’r claf i gario’r ddogfen bob amser (a defnyddio’r ddolen â phroffil oedolyn ar waelod y dudalen i lunio proffil).

Teuluoedd, cymheiriaid a chynhalwyr

Rhoi i bob teulu, cymar a chynhaliwr (ni waeth a hoffai’r claf iddyn nhw helpu i ofalu amdano neu beidio) wybodaeth ysgrifenedig a geiriol am:

  • awtistiaeth a sut mae’i rheoli;
  • grwpiau a gwasanaethau cymorth lleol i deuluoedd, cymheiriaid a chynhalwyr;
  • hawl i gynhaliwr fynnu asesiad o’i anghenion corfforol a meddyliol ei hun a sut mae cael gafael arno.

Os nad yw rhywun a chanddo awtistiaeth am i’w deulu, ei gymar neu ei gynhalwyr helpu i ofalu amdano:

  • rhoi i’r teulu, y cymar neu’r cynhalwyr wybodaeth ysgrifenedig a geiriol am y bobl mae rhaid cysylltu â nhw os oes pryderon am y sawl o dan sylw;
  • cadw mewn cof y gallai agwedd rhywun ac arno awtistiaeth at ei deulu neu ei gymar amrywio am sawl rheswm megis profiad o drais/cam-drin neu anhwylder meddyliol.

Lawrlwythiadau

Awtistiaeth: Canllaw i Oedolion yn Dilyn Diagnosis
Awtistiaeth: Canllaw i'r Rhai sy'n Cefnogi Oedolion sy'n Dilyn Diagnosis