Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae’r cynghorion canlynol wedi’u seilio ar ganllawiau CG128 NICE, ‘Autism in under 19s: recognition, referral and diagnosis’.  [www.nice.org.uk/guidance/cg128/chapter/1-Guidance#recognising-children-and-young-people-with-possible-autism]

 

Os yw atgyfeirio’n ymwneud â dirywiad yn iaith plentyn dros 3 oed neu ddirywiad ym medrau motor plentyn faint bynnag yw ei oed, dylech chi ei anfon at baediatregydd neu niwrolegydd pediatrig yn y lle cyntaf.  Gall hwnnw ei anfon yn ôl at y tîm dros awtistiaeth lle bo angen.

Os yw atgyfeirio’n ymwneud â dirywiad yn iaith plentyn o dan 3 oed, dylech chi ei asesu ynglŷn ag awtistiaeth.

Os nad yw’r naill na’r llall uchod yn berthnasol, rhaid cymryd y canlynol i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniad o ran asesu.

  • pa mor hir a difrifol yw’r arwyddion a’r nodweddion;
  • i ba raddau maen nhw’n amlwg mewn amryw sefyllfaoedd (yn y cartref ac yn yr ysgol, er enghraifft);
  • effaith yr arwyddion a’r nodweddion ar y plentyn/llencyn, ei gynhaliwr a’i deulu;
  • faint mae’r rhieni neu’r cynhalwyr yn pryderu am hynny ac, os yw’n briodol, faint mae’r plentyn/llencyn yn pryderu;
  • pa ffactorau sy’n ymwneud â rhagor o awtistiaeth;
  • pa mor debygol fyddai diagnosis arall.

Os nad oes digon o wybodaeth ichi allu dod i benderfyniad, rhaid gofyn i’r sawl sydd wedi’i atgyfeirio neu arbenigwyr gofal iechyd eraill am ragor.

Os derbyniwch chi’r atgyfeirio, dylech chi ofyn i’r ysgol neu’r coleg ac unrhyw broffesiynolion gofal iechyd a chymdeithasol eraill am ragor o wybodaeth (gan gynnwys canlyniadau unrhyw brosesau asesu golwg a chlyw) ar yr amod bod y rhieni neu’r cynhalwyr wedi rhoi eu caniatâd.

Ar ôl derbyn yr atgyfeirio, dylech chi benodi rhywun i gydlynu’r achos hwnnw gan anelu at ddechrau asesu diagnostig cyn pen tri mis.  Os yw’r plentyn neu ei deulu wedi gofyn am ryw fath o gymorth, dylech chi ddechrau ei roi yn syth heb aros am y diagnosis.

Dylech chi ystyried gwylio’r plentyn yn y cartref neu’r ysgol.  Ar y llaw arall, cewch chi ofyn am fideo o’i ymddygiad yno.

Dyma rôl cydlynydd yr achos:

  • gweithredu’n ddolen gyswllt â’r rhieni neu’r cynhalwyr a, lle bo’n briodol, â’r plentyn neu’r llencyn sy’n cael ei asesu, i’w galluogi i gyfathrebu â gweddill y tîm dros faterion awtistiaeth;
  • rhoi’r diweddaraf i’r rhieni/cynhalwyr a, lle bo’n briodol, i’r plentyn/llencyn am amserlen a threfn yr asesu;
  • trefnu i roi gwybodaeth a chymorth i’r rhieni, y cynhalwyr, y plentyn neu’r llencyn yn ôl cyfarwyddiadau’r tîm;
  • casglu gwybodaeth sy’n berthnasol i asesu diagnostig o ran awtistiaeth.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Rydyn ni wedi didoli’r cynnwys yn ôl pump dosbarth. Gwasgwch y botwm priodol i agor pob rhan:

Dadlwythiadau

Cynllunio ar gyfer asesu anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd mewn plant
Taflen i rieni a chynhalwyr
Taflen wybodaeth am asesu plant
Awtistiaeth – adnabod agweddau amlwg
Autism SIGNS Poster - Plant bach (rhwng 2 a 4 ½ oed)
Autism SIGNS poster - Plant a dechrau’r glasoed
Autism SIGNS poster - Diwedd y glasoed ac oedolion