Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae’r cynghorion isod wedi’u seilio ar ganllawiau CG142 NICE: Autism in adults: diagnosis and management: [http://www.nice.org.uk/guidance/cg142]

Argaeledd

Dylai fod ond un ddolen gyswllt â phroses atgyfeirio pobl ar gyfer asesu diagnostig.

 

Dylai fod modd i bawb ei atgyfeirio ei hun ar gyfer asesu diagnostig.

 

Penderfynu a ddylai asesu diagnostig fynd rhagddo

Dylech chi atgyfeirio claf yn ôl y meini prawf isod:

  • mae ganddo anabledd dysgu cymedrol neu ddim anabledd o gwbl, a 6 neu ragor yw’r sgôr ar ôl llenwi holiadur AQ10 (neu, mae’r sgôr yn llai na 6, a chithau o’r farn ei bod yn anghywir am ryw reswm megis nad yw’r claf yn ymwybodol o’i gyflwr).

neu

  • mae ganddo anabledd dysgu cymedrol neu ddifrifol ynghyd ag o leiaf ddau o’r canlynol.
  • anawsterau o ran trin a thrafod pobl megis:
    • heb ymwneud â phobl gan amlaf (trwy sefyll draw, cadw pobl o hyd braich neu fod yn anarferol);
    • dim ond i ddiwallu anghenion yr aiff at bobl;
    • trin a thrafod pobl mewn modd cwbl ddiniwed neu unochrog.
  • heb ymateb i deimladau pobl eraill;
  • tueddu i ymddwyn yr un fath beth bynnag fo’r sefyllfa gymdeithasol;
  • heb amlygu llawer o gydymdeimlad;
  • cadw at drefn feunyddiol heb ei newid;
  • gwneud yr un peth dro ar ôl tro (megis siglo ei gorff a/neu chwifio ei ddwylo/bysedd) yn arbennig pan fo dan straen neu’n mynegi teimlad.

 

Nid dim ond achos nad oes gan rywun anhwylder meddyliol nac anabledd dysgu hefyd y dylech chi wrthod ei atgyfeirio.

 

Os nad yw’r asesu’n dangos bod gan rywun un o anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd, rhaid ystyried ei anfon i wasanaeth arall megis iechyd y meddwl.

Dadlwythiadau

NICE Guideline CG142: Autism in adults: diagnosis and management
Enghraifft Ffurflen Atgyfeirio ar gyfer Asesiad Diagnostig
Taflen wybodaeth
Taflen wybodaeth (diwyg hawdd ei ddarllen)
AWTISTIAETH: Adnabod yr arwyddion
Poster arwyddion awtistiaeth – Plant rhwng 2 a 4½ oed)
Poster arwyddion awtistiaeth – Plant a chyfnod cynnar glasoed
Poster arwyddion awtistiaeth – Oedolion a chyfnod diweddar glasoed