Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yn ôl Canllawiau CG142 NICE, ‘Autism in adults – diagnosis and management’: www.nice.org.uk/guidance/cg142

I oedolion awtistaidd mae angen cymorth arnyn nhw i gyflawni gorchwylion beunyddiol, beth bynnag fo eu gallu deallusol, dylech chi ystyried rhaglen drefnus a rhagweladwy sydd wedi’i seilio ar egwyddorion ymddygiadol.

Gallai rhaglen weithgareddau hamdden mewn grwpiau fod o les i oedolion nad oes anableddau dysgu difrifol arnyn nhw ond sydd wedi’u hynysu o safbwynt cymdeithasol.  Gallai sesiynau unigol fod yn briodol i bobl sy’n teimlo’n anesmwyth mewn grwpiau.

Dylai rhaglenni o’r fath gynnwys y canlynol:

  • canolbwyntio ar ddiddordebau a galluoedd y rhai sy’n cymryd rhan;
  • cwrdd yn fynych ar gyfer gweithgaredd hamdden sydd i’w werthfawrogi;
  • penodi hwylusydd sy’n deall materion awtistiaeth fel y gall helpu pobl i gydio yn y gweithgaredd;
  • rhoi strwythur a chymorth.

Gallai rhaglenni rheoli dicter fod o les i oedolion nad oes anableddau dysgu difrifol arnyn nhw, er y dylech chi eu haddasu yn ôl anghenion oedolyn awtistaidd.  Dylai rhaglenni o’r fath gynnwys y canlynol, fel arfer:

  • dadansoddi natur dicter a sefyllfaoedd a allai ei sbarduno;
  • meithrin medrau ac ymarfer amryw fathau o ymddygiad;
  • dysgu i ymlacio;
  • meithrin medrau datrys problemau.

Mae modd helpu oedolion nad oes anableddau dysgu difrifol arnyn nhw i osgoi erledigaeth lle bo perygl y gallai ddigwydd.  Byddai hyfforddiant o’r fath yn cynnwys y canlynol, fel arfer:

  • meithrin medrau penderfynu mewn sefyllfaoedd sy’n ymwneud ag erlid;
  • meithrin medrau datrys problemau;
  • meithrin medrau diogelwch personol.

Mae modd helpu oedolion nad oes anableddau dysgu difrifol arnyn nhw i gael a chadw swydd trwy raglenni dysgu unigol a fyddai’n cynnwys y canlynol, fel arfer:

  • ysgrifennu CV a chais am swydd ynghyd â pharatoi ar gyfer cyfweliad;
  • hyfforddiant o ran cyflawni gorchwylion ac ymddwyn mewn swydd;
  • gofalu bod yr ymgeisydd yn gweddu i’r swydd;
  • cynghori cyflogwyr am addasu gweithle yn rhesymol;
  • cymorth parhaus ar ôl dechrau’r gwaith;
  • helpu cyflogwr cyn dechrau’r gweithiwr newydd ac wedyn gan gynnwys codi ei ymwybyddiaeth o awtistiaeth.