Mae ASDinfoWales am ofalu bod modd i bawb ddefnyddio'r wefan hon beth bynnag fo'i borydd ac ni waeth a oes anabledd arno neu beidio.
Mae gwefan ASDinfoWales wedi'i llunio yn ôl canllawiau'r Worldwide Web Consortium (W3C) ac rydyn ni am gadw at safon AA lle bo modd fel y gall pawb ddefnyddio'r wybodaeth a'r adnoddau i gyd sydd ar ein gwefan ni.
Os cewch chi unrhyw broblemau wrth ddefnyddio'r wefan neu os ydych chi am gyflwyno unrhyw sylwadau, anfonwch neges at: asdinfo@wlga.gov.uk.
Newid maint y ffont
Mae modd newid maint y ffont trwy'r botwm sydd ar waelod y dudalen hon neu trwy newid gosodiadau'ch porydd chi.
Ar gyfer Internet Explorer, cliciwch ar 'view - text size' a dewis fel y bo'n briodol.
Iaith
Mae ASDinfoWales yn cyfieithu cynnwys y wefan drwy'r amser i ofalu bod gwybodaeth ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd. Lle nad yw tudalen wedi'i chyfieithu eto, fe fydd yn Saesneg. Mae modd newid yr iaith trwy glicio ar linc 'English / Cymraeg' sydd yng nghornel dde uchaf y sgrîn.
-
- Skip NavigationHygyrchedd