Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yn ôl Canllawiau CG142 NICE, ‘Autism in adults – diagnosis and management’: www.nice.org.uk/guidance/cg142

Gall nodweddion craidd awtistiaeth effeithio ar y driniaeth ar gyfer anhwylderau meddyliol eraill allai fod ar y claf.  Felly, rhaid cymryd camau yn ôl egwyddorion iechyd y meddwl.  Dylech chi hel cynghorion arbenigwyr awtistiaeth am hyn.

Dylech chi addasu triniaeth ar gyfer ymddygiad gwybyddol fel a ganlyn:

  • dull mwy diriaethol a threfnus ac iddo ragor o wybodaeth weledol ac ysgrifenedig megis taflenni gwaith, darlunio meddyliau, lluniau a ‘phecynnau cymorth’);
  • rhagor o bwyslais ar newid ymddygiad yn hytrach na dirnadaeth fel mai’r ymddygiad fydd man cychwyn y camau;
  • pennu rheolau’n eglur ac esbonio eu cyd-destun;
  • defnyddio iaith blaen heb briod-ddulliau, trosiadau, geirfa amwys na sefyllfaoedd dychmygol;
  • gwahodd perthynas, cymar, cynhaliwr neu broffesiynolyn i’ch helpu, ar yr amod bod y claf yn gytûn;
  • cynnal sylw’r claf trwy gynnig sawl egwyl a chynnwys ei ddiddordebau arbennig yn y driniaeth (megis cyflwyno gwybodaeth trwy gyfrifiadur).