Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yn ôl Canllawiau CG142 NICE, ‘Autism in adults – diagnosis and management’: http://www.nice.org.uk/guidance/cg142

Cyn dechrau unrhyw gamau lleddfu ymddygiad anodd, rhaid ystyried ffactorau allai ei sbarduno neu ei gynnal megis:

  • afiechyd yn y corff;
  • afiechyd yn y meddwl;
  • problem ynglŷn ag amgylchedd corfforol neu gymdeithasol y sawl o dan sylw.

Os yw’n ymddangos nad yw’r rheiny’n sbarduno neu’n cynnal yr ymddygiad, rhaid dadansoddi ei natur i hel gwybodaeth am wahanol ystyriaethau megis:

  • ffactorau sy’n sbarduno’r ymddygiad yn ôl pob golwg;
  • canlyniadau’r ymddygiad (yr hyn sydd wedi digwydd o’i achos);
  • tueddiadau’r ymddygiad megis pethau a allai ei gryfhau a’r anghenion mae’r sawl o dan sylw yn ceisio eu diwallu trwy ei ffordd o ymddwyn.


Dylech chi ddewis camau yn ôl canlyniadau’r dadansoddi yn ogystal â’r canlynol:

  • natur a difrifoldeb yr ymddygiad;
  • anghenion a galluoedd corfforol y sawl o dan sylw;
  • amgylchedd corfforol a chymdeithasol;
  • gallu’r staff, y teulu, y cymar neu’r cynhalwyr i roi cymorth;
  • hoffterau’r sawl a chanddo awtistiaeth yn ogystal â rhai ei deulu, ei gymar neu ei gynhalwyr lle bo’n briodol;
  • hanes y gofal a’r cymorth.


Dylech chi lunio’r camau yn ôl egwyddorion ymddygiadol gan gynnwys:

  • pennu ymddygiad delfrydol;
  • pennu deilliannau sy’n gysylltiedig ag ansawdd bywyd;
  • asesu ac addasu ffactorau amgylcheddol allai sbarduno neu gynnal yr ymddygiad;
  • diffinio camau’n eglur trwy strategaeth;
  • atgyfnerthu camau yn ôl rhaglen eglur fel y bydd modd gwobrwyo rhywun am ymddwyn yn well;
  • amserlen benodol gan roi modd addasu strategaeth nad yw wedi arwain at well ymddygiad cyn pen cyfnod penodol;


trefn mesur yr ymddygiad cyn cymryd y camau ac wedyn i nodi’r hyn sydd wedi deillio o’r cymorth.